Diogelu cleientiaid, ymyriadau a’r gronfa iawndal 2021/22
Cyhoeddwyd 1 Medi 2023
Os ydym yn amau bod pobl mewn perygl o gael gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu os oes angen, am ryw reswm arall, i ddiogelu buddiannau cleientiaid, gallwn gymryd camau a chau cwmni neu bractis cyfreithiwr. Rydyn ni'n galw hyn yn ymyriad. Pan fyddwn yn ymyrryd, rydym yn cymryd meddiant o holl arian, ffeiliau a dogfennau cleientiaid, ac rydym yn cymryd camau i'w dychwelyd i'w perchnogion. Yna, nid yw'r cwmni'n gallu gweithredu mwyach.
Gall ein cronfa iawndal wneud taliadau i aelodau'r cyhoedd a busnesau bach ar gyfer arian a gymerwyd neu a ddefnyddiwyd yn amhriodol gan eu cyfreithiwr. Fel arfer, mae pobl yn gwneud hawliad ar y gronfa ar ôl i ni ymyrryd mewn cwmni cyfreithiol roeddent yn ei ddefnyddio. Rydyn ni'n rheoli'r gronfa ac mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn talu i mewn iddi drwy gyfraniad blynyddol.
Mae'r siartiau isod yn rhoi manylion am ein gwaith yn y maes hwn ac yn tynnu sylw at batrymau a thueddiadau allweddol.
Sylwch, mae ein blwyddyn fusnes yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Oni nodir yn wahanol, mae'r ffigurau hyn ym mis Hydref yn y flwyddyn olaf – hy, mae'r ffigurau ar gyfer 2021/22 ar 31 Hydref 2022.
Ymyriadau yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf
Roedd nifer yr ymyriadau wedi aros yn gymharol gyson o 2014/15 tan 2019/20, sef tua 40 y flwyddyn. Gostyngodd hyn i 26 a 25 o ymyriadau yn 2020/21 a 2021/22, yn y drefn honno.
Efallai fod y pecynnau cymorth a gynigiwyd yn ystod pandemig Covid-19 wedi darparu ateb ariannol tymor byr i rai cwmnïau a oedd fel arall yn cael trafferth ac a allai fod wedi wynebu ymyriad yn ystod y cyfnod hwn.
Rydym yn dechrau gweld nifer o gwmnïau mewn trafferthion ariannol, ac rydym eisoes wedi ymyrryd yn sylweddol mewn grŵp o gwmnïau cyfreithiol yn 2022/23. Mae ffigurau o chwarter cyntaf 2022/23 yn awgrymu y gallai nifer yr ymyriadau fod yn fwy cyson â nifer cyfartalog yr ymyriadau a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Gall hyn fod oherwydd diwedd y cymorth ariannol a drafodir uchod, neu'r rhagolygon economaidd salach yn gyffredinol.
2014/15 | 40 |
---|---|
2015/16 | 37 |
2016/17 | 50 |
2017/18 | 33 |
2018/19 | 37 |
2019/20 | 40 |
2020/21 | 26 |
2021/22 | 25 |
Mae'r duedd gyffredinol yn y rhesymau dros ymyrryd wedi parhau. Y tri rheswm mwyaf cyffredin dros ymyrryd yw: diogelu buddiannau cleientiaid, torri ein rheolau'n ddifrifol, a/neu reswm dros amau anonestrwydd.
Mae'r gronfa iawndal yn gronfa ddewisol pan fydd popeth arall wedi methu. Gall wneud taliadau pan fydd arian wedi cael ei gymryd neu ei golli gan rywun rydyn ni'n ei reoleiddio. Mewn rhai amgylchiadau, gall hefyd wneud taliadau lle dylai yswiriant indemniad cwmni fod wedi diogelu colled, ond nad oedd gan y cwmni yswiriant yn ei le.
Mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn talu i mewn i'r gronfa iawndal drwy gyfraniad blynyddol. Bob blwyddyn, mae ein Bwrdd yn ystyried ac yn pennu'r cyfraniad y mae'n rhaid i'r cwmnïau a'r unigolion rydyn ni'n eu rheoleiddio ei dalu i'r gronfa iawndal. Y gronfa gyfraniadau: y taliadau a wnaethpwyd, y cronfeydd wrth gefn a neilltuwyd ar gyfer hawliadau yn y dyfodol, a chostau delio â'r hawliadau eu hunain. Mae hyn yn cynnwys cost ymyrryd mewn cwmnïau lle mae arian a ffeiliau cleientiaid mewn perygl.
Ar gyfer 2022, roeddem yn gallu lleihau'r cyfraniad o £40 i £30 ar gyfer cyfraniadau unigol gan gyfreithwyr ac o £760 i £690 ar gyfer cyfraniadau gan gwmnïau.
2015/16 | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyfraniad cyfreithiwr unigol | £32 | £32 | £40 | £90 | £60 | £50 | £40 | £30 |
Cyfraniad cwmni | £548 | £548 | £778 | £1,680 | £1,150 | £950 | £760 | £690 |
Bygythiad cynlluniau buddsoddi amheus
Mewn llawer o achosion, nid yw ein cronfa iawndal yn gallu gwneud taliadau i bobl sydd wedi colli arian oherwydd eu bod yn buddsoddi eu harian yn y cynlluniau hyn. Y rheswm am hyn yw nad yw'r hawliad yn dod o fewn ein rheolau, yn aml oherwydd bod cynlluniau o'r fath yn weithgaredd nad yw'n rhan o fusnes arferol cyfreithiwr (gweler mwy o dan hanes hawliadau'r gronfa iawndal). Fodd bynnag, rydym wedi talu swm sylweddol o hyd.
Roedd y gronfa iawndal yn golygu bod llai o hawliadau'n cael eu gwneud yn gysylltiedig â chynlluniau buddsoddi a chafodd rheolau newydd eu rhoi ar waith ar 5 Gorffennaf 2021 a ddylai leihau'r baich posibl ar y gronfa iawndal ymhellach.
Taliadau'r gronfa iawndal yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf
Mae cyfanswm y taliadau rydyn ni'n eu gwneud bob blwyddyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau: nifer a natur yr ymyriadau rydyn ni wedi'u cynnal, efallai fod rhai ohonynt wedi digwydd yn ystod y flwyddyn fusnes flaenorol, a gwerth hawliadau unigol.
Yn 2020/21, cafodd y gronfa iawndal nifer fawr o geisiadau yn dilyn ymyriad arbennig o fawr i grŵp o gwmnïau cyfreithiol, Kingly Solicitors. Mae'r ymyriad unigol hwn yn cyfrif am fwy na £10m o daliadau, a dyna pam mae cyfanswm y taliadau a wnaethpwyd ar ei uchaf yn 2020/21. Yn 2021/22, dychwelodd y ffigur i swm sy'n fwy cydnaws â'r cyfartaledd ar gyfer y blynyddoedd rhwng 2014/15 a 2019/20 (£13.2m y flwyddyn).
2014/15 | 2015/16 | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer yr ymyriadau | 40 | 37 | 50 | 33 | 37 | 40 | 26 | 25 |
Cyfanswm taliadau'r gronfa iawndal |
£17.8m | £10.3m | £15.2m | £18.1m | £7.5m | £10.4m | £26.9m | £15.2m |
Hanes hawliadau'r gronfa iawndal
Bydd nifer yr hawliadau a wneir a'r rhai sy'n arwain at daliad yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel nifer yr ymyriadau a wneir, nifer y cwmnïau cyfreithiol yr effeithir arnynt ac a ydym yn gallu gwneud taliad.
Dim ond os yw'r hawliad yn dod o fewn ein rheolau y gallwn wneud taliadau. Ac mae rhai rheolau sy'n berthnasol i achosion lle gallwn wrthod hawliad, er enghraifft dan yr amgylchiadau canlynol:
- dylai yswiriwr y cwmni ddelio â'r hawliad
- mae'r hawliad gan fusnes sydd â throsiant o £2m neu fwy'r flwyddyn
- mae'r hawliad ar gyfer colledion sy'n deillio o weithgarwch nad yw'n rhan o fusnes arferol cyfreithiwr
- mae'r hawliad yn cael ei wneud y tu allan i'r terfyn amser
- mae'r hawliad yn codi o ganlyniad i'r ffaith nad yw'r cleient yn cymryd gofal priodol o'i arian.
Hanes hawliadau'r gronfa iawndal – prif rifau
Nid ydym yn delio â phob hawliad sy'n cael ei wneud a'i gau o fewn yr un cyfnod o 12 mis. Dyma pam, mewn rhai blynyddoedd, cafodd mwy o hawliadau eu cau o'i gymharu â'r rheini a gafodd eu creu.
Y taliad mwyaf a wnaethpwyd yn 2021/22 oedd £680,000. Roedd yr hawliad yn ymwneud ag arian mewn mater profiant lle'r oedd cwmni, y gwnaethom ymyrryd ag ef yn ddiweddarach, wedi cymryd arian cleientiaid. Yr ysgutorion ar gyfer yr ystâd a wnaeth yr hawliad ar y gronfa iawndal.
2014/15 | 2015/16 | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Hawliadau a wnaed | 1,054 | 1,561 | 2,174 | 2,648 | 1,425 | 1,120 | 1,599 | 1,242 |
Hawliadau wedi'u cau | 1,426 | 1,531 | 1,710 | 3,217 | 1,553 | 1,146 | 1,910 | 1,458 |
Hawliadau' n arwain at daliad | 645 | 604 | 680 | 1,553 | 488 | 367 | 295 | 645 |
Amcangyfri f o werth cyfartalog hawliad llwyddiann us | £28,000 | £17,000 | £22,000 | £12,000 | £15,000 | £28,000 | £38,500 | £24,000 |
Y tri phrif reswm dros wneud taliadau
Mae'r rhesymau mwyaf cyffredin pam ein bod yn gwneud taliadau'n ymwneud â meysydd ymarfer lle mae trafodion ariannol mawr yn digwydd, fel trawsgludo a phrofiant. Mae'r rhesymau wedi'u nodi yn y tabl isod.
2014/15 | 2015/16 | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Dychwelyd blaendal – £3.5m | Profiant – £3.9m | Enillion ar werthiannau – £4.5m | Profiant – £5.3m | Profiant – £2.7m | Enillion ar werthiannau – £2.9m | Profiant - £5.6m | Profiant - £7.8m |
2 | Profiant – £3.4m | Enillion ar werthiannau – £1m | Profiant – £3.3m | Twyll trawsgludo – £3.7m | Twyll morgais – £0.9m | Dychwelyd blaendal – £2.7m | Blaendal – £1.7m | Enillion gwerthiant – £1.4m |
3 | Dychwelyd taliad ar sail costau – £2.2m | Arian cyffredinol cleientiaid – £1m | Dychwelyd blaendal – £2.6m | Enillion ar werthiannau – £2.8m | Dwyn arian cleientiaid – £0.8m | Profiant – £2m | Enillion gwerthiant – £0.9m | Blaendal – £1.4m |
Rydyn ni’n ceisio adennill costau ymyrryd mewn cwmni rydyn ni’n ei reoleiddio. Mae hyn yn cynnwys:
- costau defnyddio cwmni cyfreithiol allanol i’n helpu i ymyrryd
- unrhyw daliadau y byddwn yn eu gwneud o’r gronfa iawndal
- unrhyw gostau llys ac ymchwiliad mewnol gan y cwmni dan sylw.
Mae ein cyllid yn dod o’r cwmnïau cyfreithiol a’r cyfreithwyr rydyn ni’n eu rheoleiddio, felly mae adennill costau’n bwysig oherwydd, yn y pen draw, mae ein costau’n cael eu trosglwyddo i’r cyhoedd sy’n prynu gwasanaethau cyfreithiol. Byddwn yn ystyried pob ffordd o adennill costau, gan gynnwys cymryd camau yn erbyn y cyfreithwyr neu’r rheolwyr sydd wedi camu i mewn, yswiriwr y cwmni ac, mewn rhai achosion, cyn bartneriaid a chyfarwyddwyr y cwmni.
Mae’r tabl isod yn dangos yr ymyriadau a chostau taliadau’r gronfa iawndal rydym wedi’u hadennill dros yr wyth mlynedd diwethaf. Ar gyfartaledd, rydym wedi adfer tua £2.8m y flwyddyn.
2014/15 | 2015/16 | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 |
---|---|---|---|---|---|---|---|
£3.7m | £1.9m | £3.5m | £4.7m | £2.5m | £2.9m | £1.1m | £2.1m |