Datganiad atebolrwydd
English Cymraeg
Rhagfyr 2019
Trosolwg
Yr hyn rydym yn ei wneud
Rydym yn:
- goruchwylio tua 192,000 o gyfreithwyr a mwy na 10,400 o gwmnïau cyfreithiol
- pennu’r gofynion addysg a hyfforddiant i fod yn gyfreithiwr
- trwyddedu cyfreithwyr unigol a chwmnïau cyfreithiol fel y gallant ymarfer
- pennu’r safonau y mae’n rhaid i gyfreithwyr a chwmnïau eu cyrraedd
- cymryd camau os nad yw cyfreithwyr neu gwmnïau’n cyrraedd y safonau a bennir gennym.
Ein pwerau
Mae gennym bwerau cyfreithiol fel y gallwn gyflawni ein cyfrifoldebau.
Sut yr ydym yn ymgysylltu â phobl
Rydym am i bobl ddeall yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae angen inni wybod beth mae pobl yn ei feddwl. Rydym yn ymgysylltu â phobl mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:
- â’r cyhoedd – mae ein Siarter Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn dangos yr hyn y gall pobl ei ddisgwyl gennym
- â chyfreithwyr a rhanddeiliaid drwy ofyn iddynt am eu barn am y pethau rydym yn gweithio arnynt drwy ymgynghoriadau ffurfiol
- mewn digwyddiadau a gynhelir i drafod ein gwaith – fel cynadleddau a sioeau teithiol ar gyfer y sawl sy’n ymddiddori yn ein gwaith.
Sut yr ydym yn adrodd ar ein gwaith
Rydym yn cyhoeddi ystod o wybodaeth am ein gwaith yn rheolaidd, fel:
- y safonau rydym yn eu disgwyl gan gyfreithwyr a chwmnïau – gweler ein Safonau a Rheoliadau
- ein dull i orfodi ein safonau – gweler ein Strategaeth Gorfodi
- ein penderfyniadau rheoleiddiol – gweler ein Canllawiau Cyhoeddi Penderfyniadau Disgyblu a Rheoleiddiol
- gwybodaeth am sut yr ydym wedi perfformio – ein cerdyn sgorio ac adroddiadau cytbwys, fel ein Hadolygiadau Blynyddol
- gwybodaeth am gyllid ein Cronfa Iawndal
- adroddiad ar sut yr ydym yn gwario’r cronfeydd sydd ar gael i ni - datganiad costau'r SRA a thrwy Adroddiad Blynyddol a datganiadau ariannol cyfunol Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr
- ein proffil blynyddol o amrywiaeth y gweithlu
- gwybodaeth am ein bwlch cyflogau rhwng y rhywiau.
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth allweddol yn Gymraeg a/neu mewn fformat hawdd ei ddarllen, ac rydym yn darparu cyfleusterau cyfieithu llawn ar ein gwefan. Yn ogystal â chyhoeddi ar ein gwefan, mae gennym ystod o sianelau cyfathrebu digidol a ddefnyddir gennym ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
Rydym hefyd yn adrodd yn uniongyrchol i sefydliadau eraill ar y gwaith rydym yn ei wneud a sut yr ydym yn ei wneud. Yn benodol:
- y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol
- y Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian ar gyfer Cyrff Proffesiynol (OPBAS)
- y Trysorlys
- yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
- rhoesom dystiolaeth gerbron Pwyllgorau Seneddol a buom yn gweithio â chynrychiolwyr etholedig
- rydym yn adrodd fel rhan o Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr, i’w Gyngor etholedig
Gwaith ein Bwrdd
Mae’n bwysig bod gwaith y Bwrdd yn eglur a thryloyw. Rydym yn gwneud yn siŵr o hyn drwy wneud nifer o bethau, gan gynnwys:
- cyhoeddi Llawlyfr Llywodraethu, sy’n disgrifio sut mae’r Bwrdd yn gweithio
- cyhoeddi Fframwaith Dirprwyo, sy’n disgrifio sut mae ein Bwrdd, ein Pwyllgorau a’n Gweithrediaeth yn gweithio â'i gilydd
- cyhoeddi fframwaith gwneud penderfyniadau sy’n dangos y pethau mae’r Bwrdd yn eu hystyried wrth wneud ei benderfyniadau
- cyhoeddi polisi tryloywder y Bwrdd – sy’n dangos yr wybodaeth rydym yn ei darparu ar y ffordd mae ein Bwrdd yn gweithio a’r hyn rydym yn ei gyhoeddi yn dilyn cyfarfodydd o’r Bwrdd
- cynnal cyfarfodydd o’r Bwrdd ar hyd a lled y wlad a defnyddio’r cyfle i gwrdd â’r cyhoedd a’r proffesiwn ledled Cymru a Lloegr
- ymgynghori ar ein Strategaeth Gorfforaethol, ein polisïau, ein cynlluniau a’n rhaglenni gwaith – gweler ein Siarter Ymgysylltu â'r Cyhoedd a’n ffyrdd o ymgysylltu.
Ein staff
Rydym yn gwneud yn siŵr bod ein staff yn gwybod yr hyn a ddisgwylir ganddynt ac rydym yn gweithio â’n gilydd mewn ffyrdd sy’n gydnaws â’n gwerthoedd a’n disgwyliadau o’r proffesiwn.
Ein Cynllun Cyhoeddi
Mae ein cynllun cyhoeddi yn dangos yr hyn a fydd ar gael yn arferol.
Nid ydym yn dod o fewn gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ond rydym yn defnyddio ein cod ein hunain, sy’n adlewyrchu gofynion y Ddeddf.
Ffyrdd eraill o gadw golwg ar ein gwaith
Yn ychwanegol at yr uchod, rydym yn cymryd camau gwirfoddol i fodloni ein hunain bod ein gwaith, a’r ffordd rydym yn ei gyflawni, yn cyrraedd safonau uchel. Rydym yn gwneud hyn drwy ofyn i sefydliadau allanol addas i adolygu ein gwaith (er enghraifft, archwilwyr ac adolygwyr annibynnol) a thrwy geisio cael achrediad yn erbyn safonau cenedlaethol/rhyngwladol pan yn briodol, fel y Sefydliad Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall a safonau diogelwch gwybodaeth y Sefydliad Safonau Prydeinig.
Yr hyn mae atebolrwydd yn ei olygu i ni
Mae’r datganiad hwn yn disgrifio ymrwymiad Bwrdd yr SRA i atebolrwydd wrth iddo oruchwylio’r sefydliad. Mae atebolrwydd yn golygu cymryd cyfrifoldeb am holl weithgarwch yr SRA a rhoi asesiad teg, cytbwys ac eglur o sefyllfa’r sefydliad pan fydd yn adrodd i randdeiliaid ac eraill.
Ein rôl
Yr SRA yw rheoleiddiwr cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gweithio i warchod y cyhoedd a chynnal rheolaeth y gyfraith a gweinyddiaeth cyfiawnder.
Rydym yn gwneud hyn drwy oruchwylio’r holl ofynion addysg a hyfforddiant sy’n angenrheidiol i ymarfer fel cyfreithiwr, trwyddedu unigolion a chwmnïau i ymarfer, pennu safonau’r proffesiwn a rheoleiddio a gorfodi cydymffurfiaeth â’r safonau hyn.
Ein pwerau
Wrth gyflawni ein rôl, rydym yn cyflawni swyddogaethau rheoleiddiol statudol Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr (Cymdeithas y Cyfreithwyr) o dan ddeddfwriaeth gan gynnwys Deddf Cyfreithwyr 1974, Deddf Gweinyddu Cyfiawnder 1984 a Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi’i henwi fel Rheoleiddiwr Cymeradwy o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol. Mae’r pwerau hyn yn cael eu dirprwyo i ni fel Bwrdd Cyngor Cymdeithas y Cyfreithwyr, fel a geir yn Rheoliadau Cyffredinol Cymdeithas y Cyfreithwyr1.
I bwy ydym ni’n atebol
Fel rheoleiddiwr budd y cyhoedd, mae gennym atebolrwydd eang i gymdeithas, y cyhoedd a’r proffesiwn.
Rydym yn gweithredu’r atebolrwydd hwnnw mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Rydym yn gwneud ein hunain yn atebol drwy gyhoeddi ystod eang o wybodaeth. Mae hynny’n cynnwys gwybodaeth am ein penderfyniadau rheoleiddiol, fel a geir yn ein Canllawiau Cyhoeddi Penderfyniadau Disgyblu a Rheoleiddiol. Rydym hefyd yn cyhoeddi ein Safonau a Rheoliadau a’n Strategaeth Gorfodi a deunydd ar ein prosesau a’n gweithdrefnau. Rydym yn adrodd ar ein gwaith drwy ein cyhoeddiadau, gan gynnwys ein Hadolygiadau Blynyddol, adroddiadau ar bynciau penodol, fel ein hadroddiad ar Gynnal Safonau Proffesiynol, adroddiadau ariannol y Gronfa Iawndal a datganiad costau'r SRA.
Mae barn pobl yn bwysig inni am ein bod am sicrhau bod yr hyn rydym yn ei wneud yn diwallu eu hanghenion. Felly rydym yn ymgysylltu ac yn ymgynghori'n eang ac yn adrodd yn fanwl ar yr hyn rydym wedi’i glywed a sut yr ydym yn ymateb. Mae ein Siarter Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn amlinellu’r hyn y gall pobl ei ddisgwyl gennym. Mae siarad â phobl a deall yn union yr hyn maent yn ei ddweud wrthym yn bwysig, felly rydym yn cynnal digwyddiadau i drafod ein gwaith â rhanddeiliaid, fel cynhadledd flynyddol y Swyddogion Cydymffurfiaeth, ein digwyddiad Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr blynyddol, a sioeau teithiol gyda’r cyhoedd a grwpiau cefnogi. Rydym yn rhoi tystiolaeth yn rheolaidd i bwyllgorau seneddol ac yn gweithio’n glos â chynrychiolwyr etholedig.
Fel Bwrdd Cymdeithas y Cyfreithwyr (Cymdeithas y Cyfreithwyr yw’r Rheolydd Cymeradwy Cymwys o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007) ac felly’n rhan o Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr, rydym yn atebol i’r Cyngor yn uniongyrchol a thrwy Bwyllgor Archwilio a Bwrdd Busnes a Goruchwylio’r Grŵp. Rydym hefyd yn cael ein llywodraethu gan y Rheoliadau Cyffredinol, sy’n pennu’r fframwaith ar sut yr ydym yn gweithio. Mae ein gwaith a’n hadroddiadau ariannol yn cael eu cyhoeddi drwy Adroddiad Blynyddol a datganiadau ariannol cyfunol Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Rydym yn atebol hefyd i amrywiaeth o reolyddion gan gynnwys y rheolydd goruchwylio cyfreithiol, y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol (LSB), drwy ein Reolau Llywodraethu Mewnol a wnaed o dan adran 30 o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 i ddiogelu annibyniaeth y swyddogaethau rheoleiddiol oddi wrth swyddogaethau cynrychioliadol rheolyddion cymeradwy (Cymdeithas y Cyfreithwyr yn ein hachos ni). Mae ein gwaith yn cael ei asesu’n ffurfiol gan yr LSB ac mae'n cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ein perfformiad yn ogystal ag adroddiadau thematig ar feysydd penodol o waith rheolyddion.
Mae gofyniad arnom i ddarparu gwybodaeth ar gais i’r Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian ar gyfer Cyrff Proffesiynol (OPBAS). Mae OPBAS yn nodi ei disgwyliadau ar gyfer goruchwylwyr, fel ni, o ran llywodraethu, hyfforddiant staff, goruchwyliaeth a rhannu gwybodaeth yn ei Sourcebook. Rydym hefyd yn cyfrannu at adroddiad blynyddol y Trysorlys ar atal gwyngalchu arian a goruchwylio cyllid atal terfysgaeth.
Rydym yn Gorff Proffesiynol Dynodedig o ran yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), sy’n golygu bod llawer o’r cwmnïau sy’n cael eu hawdurdodi gennym wedi’u heithrio o’r gofyniad statudol i gael eu rheoleiddio gan yr FCA i ymgymryd â gwasanaethau a gweithgarwch ariannol penodol. Mae gofyniad arnom i gyflwyno adroddiad blynyddol i’r FCA ar ein gwaith yn y maes hwn.
Mae’n ofynnol ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth arall sy’n gymwys i gyrff o’n maint a’n natur ni, fel Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a gofynion yn gysylltiedig ag adrodd yn flynyddol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Gwaith ein Bwrdd
Rhan allweddol o’n hatebolrwydd yw bod gwaith y Bwrdd yn eglur a thryloyw. Gallwn sicrhau hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:
- Drwy ein fframwaith gwneud penderfyniadau, sy’n egluro’r broses a’r ystyriaethau a ddefnyddir gan y Bwrdd wrth wneud ei benderfyniadau.
- Drwy gyhoeddi papurau’r Bwrdd a’n datganiad tryloywder, sy’n dangos sut yr ydym yn darparu gwybodaeth ar sut mae ein Bwrdd yn gweithio a’r hyn rydym yn ei gyhoeddi am gyfarfodydd o’r Bwrdd.
- Drwy ymgysylltiad uniongyrchol aelodau ein Bwrdd â’n rhanddeiliaid mewn digwyddiadau ledled Cymru a Lloegr, cwrdd yn rheolaidd â grwpiau allweddol a’n gwaith allgymorth ehangach.
- Drwy ein hymrwymiad i ymgynghori ac ymgysylltu ar ein Strategaeth Gorfforaethol, ein polisïau, ein cynlluniau a’n rhaglenni gwaith, fel y nodwyd yn ein polisi ymgynghori a’n Siarter Ymgysylltu â'r Cyhoedd.
- Drwy ein Llawlyfr Llywodraethu, sy’n sail i’r holl waith a wneir gan y Bwrdd ac sy’n cynnwys cylch gorchwyl y Bwrdd a’i bwyllgorau, rolau a chyfrifoldebau’r Cadeirydd ac aelodau’r Bwrdd, ac ymddygiad ac arfarniad o aelodau’r Bwrdd (ac sy’n cynnwys y datganiad atebolrwydd hwn).
- Drwy ein Fframwaith Dirprwyo. Mae hyn yn dangos sut mae’r Bwrdd, y Pwyllgorau a’r Weithrediaeth yn gweithio â’i gilydd i gyflawni ein swyddogaethau. Mae hyn yn cynnwys yr egwyddorion sylfaenol sy’n hybu tryloywder a goruchwylio effeithiol.
Ein staff
Rydym yn ei gwneud yn amlwg i’r sawl sy’n gweithio i ni sut maent yn atebol ac am y safonau a ddisgwylir ganddynt. Mae hyn yn cynnwys:
- Cod ymddygiad y staff (sy’n adlewyrchu’r safonau a ddisgwylir gan aelodau ein Bwrdd).
- Ein cymwyseddau ymddygiadol – arwain ac ymgysylltu, cydweithredu â rhanddeiliaid, cyflawni canlyniadau o ansawdd uchel, diwylliant o wella ac arddangos crebwyll.
- Ein gwerthoedd. Mae’r rhain yn diffinio’r hyn sy’n bwysig yn y ffordd rydym yn rhyngweithio â rhanddeiliaid, yn fewnol ac yn allanol
- Ein ffyrdd diffiniedig o weithio – Ysgrifennu yn null yr SRA, Diogelwch Eiddo a Diogelwch Personol, Gweithio gyda’n Gilydd, Darparu Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Helpu ein gilydd a Helpu’r amgylchedd.
Mae pob un o’r uchod wedi’u disgrifio mewn rhan benodol o’n mewnrwyd – Gweithio yn yr SRA – ac maent yn hanfodol i’n diwylliant a sut yr ydym yn recriwtio, hyfforddi a rheoli ein staff.
Sut yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ein gwaith
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am ein gwaith a’n perfformiad mewn amryw o ddogfennau gan gynnwys:
- Adolygiadau Blynyddol
- Cynnal Safonau Proffesiynol
- datganiadau cost
- Rhagolwg Risgiau
- papurau risgiau
- adolygiadau thematig
- ymchwil
- rhybuddion am sgamiau
- proffil amrywiaeth cadarn
- ein proffil blynyddol ein hunain o amrywiaeth y gweithlu
- ein hadroddiad ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
- polisïau allweddol, fel polisi ar addasiadau rhesymol
- adroddiadau ariannol ar y Gronfa Iawndal
- Adroddiad blynyddol a datganiadau ariannol y Grŵp
- adroddiad blynyddol ar ddelio â chwynion corfforaethol gan ein Hadolygydd Annibynnol
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth allweddol yn Gymraeg a/neu mewn fformat hawdd ei ddarllen, ac rydym yn darparu cyfleusterau cyfieithu llawn ar ein gwefan.
Yn ogystal â chyhoeddi ar ein gwefan, mae gennym ystod o sianelau cyfathrebu digidol a ddefnyddir gennym ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Rydym yn gwneud defnydd cynyddol o gyfathrebu digidol, symudol yn gyntaf, gan alluogi adrodd amser real a lleihau’r angen am gyhoeddiadau printiedig gyda’u heffaith ar yr amgylchedd a’u cyfyngiadau o ran hygyrchedd.
Ein Cod Tryloywder a’n Cynllun Cyhoeddi
Er nad ydym yn dod o fewn gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, rydym yn defnyddio ein cod ein hunain am ein bod yn credu mewn bod mor agored a thryloyw â phosibl ynglŷn â’r hyn rydym yn ei wneud. Ein hegwyddor graidd yw gofalu bod gwybodaeth ar gael oni bai bod rheswm da dros beidio.
Mae ein cod tryloywder yn dangos sut yr ydym yn ymateb i geisiadau gan unigolion a sefydliadau am wybodaeth a gedwir gennym ac nad yw wedi’i chynnwys yn ein Cynllun Cyhoeddi. Mae’n berthnasol yn achos gwybodaeth fel dogfennau, ffeiliau cyfrifiadurol, llythyrau, negeseuon e-bost, ffotograffau, a recordiadau sain neu fideo.
Mae ein cynllun cyhoeddi yn dangos yr hyn sydd ar gael gennym yn arferol. Mae ar gael ar ein gwefan ac felly hefyd fanylion ein Cod Tryloywder.
Meincnodi allanol a sicrwydd
Yn ychwanegol at yr uchod, rydym yn cymryd camau gwirfoddol i fodloni ein hunain bod ein gwaith, a’r ffordd rydym yn ei gyflawni, yn cyrraedd safonau uchel. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio gwasanaeth sefydliadau allanol priodol i graffu ar ein gwaith a, phan yn briodol, drwy geisio achrediad yn erbyn safonau cenedlaethol/rhyngwladol cydnabyddedig, fel:
- Ardystiad amgylcheddol gyda Sicrwydd Ansawdd Lloyds Register yn erbyn Safonau Rhyngwladol.
- Gweithgarwch sicrwydd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar ein safonau gwybodaeth
- Craffu annibynnol gan Adolygydd Annibynnol ar sut yr ydym yn delio â chwynion corfforaethol.
- Rhaglen o archwiliadau mewnol gan gwmni archwilio annibynnol sy’n edrych ar feysydd allweddol o’n gwaith
- Defnydd o asiantaethau allanol i sicrhau ansawdd prosiectau allweddol
- Mabwysiadu (ac mewn rhai achosion achrediad yn erbyn) safonau’r Sefydliad Gwasanaeth i Gwsmeriaid.
- Ein cyflwyniad blynyddol i Stonewall ar gyfer meincnodi yn erbyn Mynegai Cydraddoldeb Gweithleoedd y DU i asesu cynnydd ar gynnwys pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn y gweithle.
- Mae Cylch Gorchwyl y Bwrdd i’w weld yn Rheoliad 31 o Reoliadau Cyffredinol Cymdeithas y Cyfreithwyr ac mae manylion pellach am rôl a chyfrifoldebau’r Bwrdd a’i aelodau i’w cael yn Llawlyfr Llywodraethu’r SRA.