Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym
English Cymraeg
30 Gorffennaf 2019
Yma rydym yn nodi sut y byddwn yn cydweithio â chi ac yn gwrando ar eich barn neu’ch pryderon. Rydym yn esbonio’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym, p’un a ydych mewn cysylltiad â ni’n uniongyrchol ynteu’n cael eich cynrychioli gan sefydliad cymorth i ddefnyddwyr neu sefydliad eiriolaeth. Ein henw ni ar hyn yw ein "Siarter Ymgysylltu Cyhoeddus".
Anelwn at drin pawb yn deg a chyfartal, gan sicrhau ein bod yn deall eich anghenion.
Pwy ydyn ni a beth yw’n gwaith
Ni yw’r rheoleiddiwr i gyfreithwyr a’r mwyafrif o ffyrmiau cyfraith Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio er budd y cyhoedd, gan oruchwylio cyfreithwyr a ffyrmiau cyfraith. Mae hynny’n golygu ein bod ni:
- yn gweithio i sicrhau bod cyfreithwyr yn dilyn ein rheolau ac yn cyrraedd ein safonau uchel
- yn amddiffyn pobl pan fyddan nhw’n defnyddio cyfreithiwr neu ffyrm gyfraith:
- camu i mewn pan aiff rhywbeth o’i le gyda chyfreithiwr neu ffyrm gyfraith
- rhoi iawndal i bobl sydd wedi colli arian o dan amgylchiadau penodol
- yn gweithio i sicrhau bod gwasanaethau cyfreithiol yn hwylus a fforddiadwy.
Gallwch chi
- wirio a yw cyfreithiwr neu ffyrm gyfraith yn cael eu rheoleiddio gennym, i’ch helpu i wneud y dewis cywir wrth ddefnyddio gwasanaethau cyfreithiol
- rhoi gwybod inni am fater neu bryder ynglŷn ag ymddygiad cyfreithiwr neu ffyrm
- gwneud cais i’n Cronfa Iawndal os cawsoch golled ariannol o ganlyniad i anonestrwydd cyfreithiwr
- dod o hyd i wybodaeth am dwyll lle mae pobl yn cymryd arnyn nhw eu bod yn gyfreithwyr
- rhoi’ch barn inni am unrhyw newid rydyn ni’n ystyried ei wneud.
Byddwn yn agored ac atebol ynghylch
- yr hyn y gallwn ei wneud ichi
- yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym
- sut y gwnaethom ein penderfyniadau ar ddisgyblaeth a pholisi
- beth i’w wneud os na fyddwch yn fodlon ar unrhyw elfen o sut rydyn ni wedi ymdrin â chi neu unrhyw benderfyniad a wnaethom.
Byddwn mor gynhwysol â phosibl
- drwy ddarparu gwybodaeth hwylus mewn iaith glir
- drwy gynnig amryw o ffyrdd gwahanol ichi gysylltu â ni
- drwy gydweithio â chi, lle bynnag y bo modd, yn y ffordd sy’n fwyaf addas i chi.
Ein nodau ni yw
1. Rhoi gwasanaeth cwsmeriaid o safon ichi pryd bynnag y byddwch yn cysylltu â ni. Fe fyddwn:
- yn gwrando arnoch
- yn broffesiynol a chwrtais
- yn dod yn ôl atoch pryd y dywedwn ni
- yn gweithredu’n deg, gan drin pawb yn gyfartal, heb wahaniaethu anghyfreithlon
- yn ymateb i’ch anghenion unigol, a sicrhau bod ein gwasanaethau’n hwylus
- yn gofalu am eich data fel y disgwyliech, a chadw’ch gwybodaeth yn gyfrinachol.
2. Wrth ymgynghori â chi ynghylch newidiadau a allai effeithio arnoch, fe fyddwn:
- yn nodi’n glir y rhesymau am unrhyw newid arfaethedig, sut gallen nhw effeithio ar bobl, a’r rhesymau pam rydyn ni’n gofyn eich barn chi
- yn rhoi digon o amser i bobl ymateb neu leisio barn
- yn sicrhau bod yr ystod ehangaf posibl o leisiau a sylwadau’n cael eu clywed, gan gynnwys y rhai a allai fod yn absennol fel arall, megis y rhai sy’n eu cael eu hunain mewn sefyllfa fregus
- yn defnyddio amryw o ffyrdd gwahanol i glywed y sylwadau hyn, yn uniongyrchol gan unigolion a thrwy sefydliadau cymorth i ddefnyddwyr a sefydliadau eiriolaeth
- yn gwrando, yn ystyried yr hyn y mae pobl yn ei ddweud, ac yn newid ein ffyrdd o weithio os dyna’r peth cywir i’w wneud
- yn gadael i bobl wybod sut mae eu barn wedi newid ein syniadau ni
- yn gwerthuso beth sy’n gweithio neu beidio, gan sicrhau ein bod yn gweithredu ar y gwersi.
3. Sicrhau bod pawb yn yr SRA, a’r rhai rydyn ni’n gweithio gyda nhw, yn cydnabod ac yn hybu pwysigrwydd gweithio fel hyn.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Pa wybodaeth sydd gennym am gyfreithwyr a ffyrmiau, a sut i wirio’u cofnod.
Sut i roi gwybod am broblem gyda chyfreithiwr - gan gynnwys manylion am pa bryd y gallwn ni helpu neu beidio, a phryd y gallai’r Ombwdsmon Cyfreithiol helpu yn lle hynny.
Canllawiau ar wneud penderfyniadau – sut rydym yn gwneud penderfyniadau pan fyddwn yn ymchwilio i bryderon am gyfreithwyr neu ffyrmiau cyfraith.
Gwneud taliadau o'n cronfa iawndal – manylion ynghylch pa bryd y gallwch wneud cais i’n cronfa iawndal, a beth i'w ddisgwyl.
Sut rydym yn delio â'ch pryder amdanon ni – sut i gwyno am y gwasanaeth rydym wedi’i roi ichi, a’n siarter cwynion.
Sut rydym yn ymgynghori ar newid polisi neu newid gweithredol – sut rydym yn siarad ac yn gwrando ar bobl cyn inni wneud newidiadau i'r ffordd rydym yn gweithio.
Mae ein polisïau ynghylch Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cynnwys manylion am addasiadau rhesymol - sut rydym yn ei gwneud yn haws ichi gysylltu â ni, er enghraifft os oes gennych anabledd neu broblem iechyd, a’n datganiad polisi cynhwysiant traws sy’n nodi’n hymagwedd at drin pawb ag urddas a pharch.
Ein polisi ar ddefnyddio ieithoedd heblaw Saesneg, gan gynnwys Cymraeg, a manylion am wasanaethau cyfieithu sydd ar gael.
Prosesu data yn deg – beth i’w ddisgwyl pan fyddwn yn casglu’ch gwybodaeth bersonol.
Cynllun cyhoeddi – pa fath o wybodaeth rydyn ni’n ei chyhoeddi.
Cod tryloywder – sut rydyn ni’n mynd ati i fod mor agored ag y bo modd am yr hyn a wnawn.